Skip to content
Lemon drizzle cake

Cacen Eisin Lemwn Heb Glwten Gan Rosie

Mae hon yn gacen lemwn hynod ffres a blasus, basai neb byth yn dyfalu bod dim glwten ynddi. Gellir defnyddio croen oren neu leim os oes well gennych. 

Cynhwysion 

  • Croen 4 lemwn (neu leim/oren)  
  • 220g siwgr mân 
  • 220g margarîn 
  • 4 ŵy mawr 
  • 220g blawd codi heb glwten 
  • ½ llwy de o bowdwr codi 
  • 1/8 llwy de o gwm xanthan (os nad yw eisoes yn eich blawd – edrychwch ar y bag) 
  • 50g siocled gwyn (wedi toddi)  

 

Ar gyfer yr eisin 
  • Sudd 1 lemwn 
  • 2 lwy fwrdd o siwgr mân 

 

Ar gyfer yr addurn (dewisol): 
  • 50g siocled gwyn 
  • Mwy o groen lemwn 

Dull

Lemon drizzle cake
Cam 1

Cynheswch y ffwrn i 160 gradd ffan (180 confensiynol). Irwch dun torth 1lb neu dun crwn 7 modfedd (gyda chwistrell olew neu gyda margarîn).

Cam 2

Toddwch y siocled (byrstiau byr ar osodiad isel yn y microdon neu mewn bowlen dros sosban o ddŵr sy’n mudferwi’n ysgafn). Ychwanegwch y siwgr mân a’r margarîn i’r bowlen a’i chwipio tan iddo droi’n olau ac yn ysgafn.

Cam 3

Ychwanegwch yr wyau, blawd, croen ffrwyth, gwm xanthan (os oes angen), powdwr codi a’r siocled gwyn a chymysgu’r cyfan yn dda. Trosglwyddwch y gymysgedd i’r tun torth/cacen a llyfnhewch y top.

Cam 4

Pobwch am 40-45 munud cyn ei wirioos yw sgiwer yn dod allan o ganol y gacen yn lân, mae’n barod, os nad yw, rhowch 5 munud arall i’r gacen cyn ei wirio eto.

Cam 5

Paratowch yr eisin trwy gymysgu’r sudd lemwn a’r siwgr mân. Trosglwyddwch y gacen i silff oeri ar ôl ei adael i oeri yn y tun am 10 munud.

Cam 6

Defnyddiwch ffon goctel i wneud llawer o dyllau bach yn nhop y gacen, yna arllwyswch yr eisin dros y gacen.

Cam  7

Gadewch y gacen i oeri’n llwyr cyn toddi’r siocled. Defnyddiwch lwy de i arllwys y siocled yn ysgafn mewn llinellau main dros dop y gacen. Ysgeintiwch gymysgedd o groen ffrwyth a siwgr mân ar y top.

Rosie Brandreth-Poynter

Am fwy o ryseitiau gan Rosie, mynd i: Rosie Brandreth-Poynter – rosieandralphbake.co.uk @rosiebrandreth