Skip to content

Cacen Iowgrt Ffrengig Manon Lagreve

Le Gateau au yaourt (neu 'Cacen iogwrt Ffrengig) yw'r gacen rwyf wedi ei phob fwyaf yn fy mywyd rwy'n credu. Mae pob mam yn Ffrainc wedi gwneud y gacen hon. Mae mor hawdd a sydyn i'w gwneud. 

Cynhwysion  

  • 2 * 125ml iogwrt plaen 
  • 3 “phot iogwrt” o flawd plaen 
  • 2 “bot iogwrt” o siwgr mân 
  • 1 “pot iogwrt o olew llysiau 
  • 3 ŵy 
  • 1 llwy fwrdd o bowdwr codi 
  • 1 llwy de o ddŵr rhosod 
  • 1 pinsiad o halen 
  • Ar gyfer y topin siocled 
  • 100g o siocled tywyll 
  • 50g o fenyn hallt 

Dull

Le Gateau au yaourt
Cam 1

Gwnewch y gacen iogwrt Ffrengig: Gwagiwch y potiau iogwrt a glanhewch un pot i’w ailddefnyddio. Yna, mesurwch 2 bot o siwgr ac ychwanegwch yr wyau. Defnyddiwch chwisg i chwipio’r cwbl yn dda. 

Cam 2

Yna, ychwanegwch 1 pot o olew llysiau a chymysgu’r cwbl yn dda. Gorffennwch y cytew gyda 3 phot o flawd, y powdwr codi, y dŵr rhosod a’r pinsiad o halen. Cynheswch y ffwrn i 180C ffan.

Cam 3

Pobwch y gacen iogwrt Ffrengig: Irwch eich tun gyda menyn ac ysgeintiwch ychydig o flawd ar y top. Arllwyswch y cytew i mewn i’r tun wedi’i iro a choginiwch y gacen am 35 i 40 munud. 

Gallwch orchuddio’r gacen yn ysgafn gyda ffoil os ydych yn gweld ei bod yn dechrau edrych yn frown ar ôl 20 munud. 

Cam 4

Gadewch y gacen iogwrt Ffrengig i oeri cyn ei gorchuddio. Toddwch y menyn gyda’r siocled ac arllwyswch y cyfan dros y gacen iogwrt wedi’i hoeri. Addurnwch y gacen gyda blodau ffres neu flodau siwgr. Et voilà!

Am fwy o ryseitiau gan Manon: manonlagreve.com  @manonlagreve