Skip to content

Cacen Mefus Ffrengig Manon

Mae Manon Lagreve wedi rhannu ei rysáit flasus gyda ni ar gyfer ei chacen mefus Ffrengig. Perffaith ar gyfer y Cinio Mawr!

Cynhywsion

  • 115g o fenyn, tymheredd ystafell 
  • 250g siwgr gronynnog 
  • 1 llwy de o bâst fanila 
  • Pinsiad o halen 
  • 2 ŵy mawr 
  • 160g blawd plaen 
  • 1 llwy de o bowdwr codi 
  • 60g hufen sur 
  • 200g o fefus 

Dull

Cacen Mefus Ffrengig Manon
Cam 1

Cynheswch y ffwrn i 180C.

Cam 2

Mewn powlen, cymysgwch y menyn a’r siwgr am ryw 2 funud. Ychwanegwch y 2 ŵy, un ar y tro. Yna, ychwanegwch y pâst fanila a’r halen.

Cam 3

Mewn powlen arall, cymysgwch y blawd a’r powdwr codi a’i ychwanegu at y gymysgedd. Gorffennwch trwy ychwanegu’r hufen sur.

Cam 4

Irwch y tun a’i ysgeintio â blawd, lledaenwch y gymysgedd a’i orchuddio gyda mefus wedi’u torri’n ddarnau.

Cam 5

Pobwch y gacen yn y ffwrn am 30 munud.