Skip to content
Grainne's Spicy Pumpkin Soup

Cawl Pwmpen Sbeislyd Grainne

Gallwch wneud cymaint mwy na cherfio gyda phwmpen, beth am roi cynnig ar wneud cawl pwmpen blasus i’w rannu gyda’ch ffrindiau a chymdogion! 

Cynhwysion

  • Pwmpen 1kg, wedi’u phlicio a’i thorri yn ddarnau 1-2cm 
  • 1 winwnsyn, wedi’i dorri’n ddarnau bach 
  • 2 lwy de o arlleg 
  • 2 bupur coch 
  • 2 lwy fwrdd o bâst cyri coch 
  • 1 tun o hufen cnau coco 
  • 1 llond llaw o ddail coriander ffres wedi’u torri’n fras 

Dull

Cawl Pwmpen Sbeislyd Grainne
Cam 1

I wneud y cawl. Cynheswch sosban fawr ar wres canolig.

Cam 2

Ychwanegwch y bwmpen, y winwnsyn, y garlleg, y pupur coch a’r pâst cyri, cymysgwch y cyfan a’i goginio ar wres canolig am ychydig funudau.

Cam 3

Ychwanegwch yr hufen cnau coco a pharhewch i gymysgu’r cwbl, yna ychwanegwch beint o ddŵr oer a dod â’r cyfan i’r berw yn raddol. 

Cam 4

Trowch y gwres i lawr yn isel, gorchuddiwch y gymysgedd a’i mudferwi am 20 munud neu tan fod y bwmpen wedi meddalu.

Cam 5

Tynnwch y sosban o’r gwres, gadwch y cawl i oeri cyn ei blendio mewn prosesydd bwyd neu gyda fforc tan ei fod yn llyfn. Sesnwch gyda halen a phupur a’i addurno gyda’r coriander ffres. 

 

Gweinwch y cawl a’i fwynhau gyda’ch cymdogion yr hydref hwn, cyfle gwych i ddal i fyny ar ôl yr haf ac i gychwyn cynllunio eich Cinio Mawr! 

O gyris, cawl a phasteiod, i hufen iâ, myffins, bariau byrbrydau a hyd yn oed cwrw, mae llawer o ffyrdd diddorol o ddefnyddio’ch bwmpen ar ôl Calan Gaeaf eleni!