Skip to content
Sloe berries in a jam jar with gin poured over the top and sugar settled at the bottom

Jin Eiren Duon Bach

Wrth i ni agosáu at yr Hydref, beth am fanteisio ar gasgliad cudd eich cymuned o eirin duon bach a rhoi cynnig ar wneud eich jin eirin duon bach eich hun, mae’n blasu’n wych ac mewn potel brydferth, mae’n anrheg hyfryd i rywun! 

Am ddewis amgen di-alcohol, beth am roi cynnig ar y rysáit yma am ddiod eirin duon bach, y gallwch ei defnyddio mewn moctel neu fel diod flasus unrhyw adeg o’r diwrnod.  

Pryd ddylwn i bigo eirin duon bach? 

Mae eirin duon bach yn gyffredinol ar gael o fis Medi ymlaen ond mae nifer o bobl yn aros i’w pigo tan ar ôl rhew cyntaf y gaeaf (diwedd Hydref i gychwyn Tachwedd) gan fod y rhew yn gallu meddalu’r croen ychydig sy’n helpu rhyddhau’r sudd. Ar ôl eu cynaeafu a’u pigo, yn draddodiadol mae eirin duon bach yn cael eu pricio gyda draenen a gymerwyd o’r llwyn draenen ddu lle maen nhw’n tyfu. 

Cynhwysion

    • 70cl jin di-flas
    • 500g eirin duon bach 
    • 250g siwgr 
    • Bydd hefyd angen arnoch jar 1.5 litr a lliain mwslin. 

Dull

Plums growing
Cam 1

Tynnwch unrhyw goesynnau allan o’r eirin duon bach a rhowch y ffrwythau yn yr oergell am o leiaf 24 awr. 

Cam 2

Rhowch eich eirin duon bach mewn jar lydan, aerdyn, gan lenwi’r jar hanner llawn. 

Cam  3

Ychwanegwch y siwgr cyn arllwys eich jin di-flas i’r top.

Cam 4

Cadwch y jar mewn lle tywyll am 3 mis gan gofio ysgwyd y jar yn rheolaidd.

Cam 5

Pan mae’n barod, hidlwch y gymysgedd trwy’r mwslin i mewn i botel lân, a dyna chi, mae’r jin yn barod! 

 

Ffynhonnellhttps://www.countryfile.com/how-to/food-recipes/seasonal-recipes/the-perfect-sloe-gin-recipe/