Skip to content
Pavlova Mafon Fegan Gan Freya Cox

Pavlova Mafon Fegan Gan Freya Cox

Mae pawb yn caru Pavlova, ac mae hwn yn fegan fel bod pawb yn gallu mwynhau! 

“Os ydych yn edrych am bwdin syfrdanol i greu argraff ar unrhyw un, yn enwedig y rhai nad ydynt wedi’u hargyhoeddi gan fwyd fegan eto, dyma’r dewis perffaith. Nid yw’n cymryd llawer o ymdrech gan fod y rhan fwyaf o’r amser yn cael ei dreulio yn pobi’r pavlova ac yn ei adael i oeri. Gallwch chi ychwanegu pa bynnag dopins mynnwch chi, mae’n bwdin i blesio pawb!” 

Cynhwysion

Ar gyfer y pavlova: 
  • 150ml aquafaba (gallwch ddraenio’r dŵr o ganiau o ffacbys ar gyfer hyn a rhewi’r ffacbys i’w ddefnyddio nes ymlaen)   
  • ½ llwy de o hufen tartar 
  • 150g siwgr mân 
  • ½ llwy de o gwm xanthum  
  • Ar gyfer y coulis mafon: 
  • 150g mafon ffres 
  •  1-2 llwy fwrdd o siwgr eisin 
 Ar gyfer y topin:
  •  100ml hufen dwbl fegan – dwi’n hoffi brand Oatly Whippable 
  •  25g siwgr eisin 
  • Llond llaw o fafon ffres 

Dull

Pavlova Mafon Fegan Gan Freya Cox
Cam 1

Cynheswch y popty ymlaen llaw i 100c ffan, yna leiniwch silff bobi fawr â phapur gwrthsaim. 

Tynnwch lun o amgylch plât cinio maint canolig, neu rywbeth tebyg, i greu cylch tua 23cm yn fras. Yna defnyddiwch wydr i dynnu cylch llai y tu mewn i’r un mwy.

Cam 2

Defnyddiwch ychydig bach o seidr afal neu sudd lemwn ar ddarn o bapur cegin i sychu o amgylch bowlen cymysgydd sefydlog, neu bowlen fawr os nad oes gennych chi gymysgydd i gael gwared ar unrhyw saim. 

I gael y canlyniadau gorau, defnyddiwch gymysgydd sefydlog wedi’i ffitio ag atodiad balŵn arno os oes gennych chi un gan ei fod yn llawer mwy pwerus na chwisg trydan llaw.

Cam 3

Chwipiwch yr aquafaba a’r hufen tartar ar gyflymder canolig i ddechrau fel nad yw’n tasgu o gwmpas, yna ar gyflymder uchel nes iddo greu copaon anystwyth. Mae hyn yn golygu y gallech chi droi’r bowlen wyneb i waered ac ni fyddai’r aquafaba yn symud. 

Unwaith y bydd yn cyrraedd y cam hwn, trowch y cymysgydd i lawr i gyflymder canolig ac ychwanegwch y siwgr mân un llwy ar y tro, gan wneud yn siŵr bod pob llwy wedi’i ymgorffori’n llawn cyn ychwanegu un arall.

Cam 4

Unwaith y bydd y siwgr i gyd wedi’i gyfuno, ychwanegwch yr hufen tartar a’i chwisgio’n uchel nes bod y cymysgedd yn edrych yn loyw ac yn ludiog.

Cam 5

Llwywch y meringue ar y papur gwrthsaim a’i wasgaru i greu siâp y torch. Defnyddiwch sbatwla onglog neu gefn llwy i greu strociau llyfn o meringue i fyny’r ochrau. 

Rhowch yn y popty am 2 awr 30 munud, yna ar ôl ei bobi gadewch ddrws y popty ar gau ond trowch y popty i ffwrdd gan adael y pavlova y tu mewn nes ei fod yn gwbl oer.

Cam 6

Ar gyfer y coulis, rhowch y mafon a’r siwgr eisin mewn prosesydd bwyd a’i gymysgu nes eu bod yn llyfn iawn. 

Hidlwch y cymysgedd i mewn i jwg gan dynnu’r holl hadau. Os nad oes gennych chi brosesydd bwyd gallwch stwnsio’r mafon gyda stwnsiwr tatws nes eu bod yn llyfn. Yna, ychwanegwch y siwgr eisin cyn rhoi’r gymysgedd trwy ridyll nes ei fod yn llyfn.

Cam 7

Unwaith y bydd y pavlova yn oer a’ch bod yn barod i’w weini, chwipiwch yr hufen a’r siwgr eisin gyda’i gilydd nes ei fod yn creu copaon meddal, yna rhowch lond llwyau ohono ar draws top y pavlova. 

Arllwyswch lond lwyau o’r coulis drosto, yna rhowch y mafon ffres ar draws y top i orffen.  Ychwanegwch y topins jyst cyn i chi weini’r pavlova gan y bydd yr hufen yn ei wneud yn feddal dros amser. Mwynhewch!

Cam 8

Arllwyswch lond lwyau o’r coulis drosto, yna rhowch y mafon ffres ar draws y top i orffenYchwanegwch y topins jyst cyn i chi weini’r pavlova gan y bydd yr hufen yn ei wneud yn feddal dros amser. Mwynhewch!

Freya Cox

Diolch yn fawr unwaith eto i Freya am rannu’r pavlova mafon fegan blasus hwn. 

freya_cox_new_preferred_1.jpg