Skip to content
Bread

Rholiau Selsig Fegan Rosie

(Gellir Eu Gwneud Yn Ddi-glwten)

Yn llawn blas, mae’r rholiau selsig hyn wedi diflannu’n gynt mewn partïon na’u cymheiriaid cigog! Mae’r harissa yn ychwanegu sbeis cynnil, tra bod y burum maethol yn ychwanegu blas caws a chnau. Perffaith ar gyfer partïon Cinio Mawr neu bicnic. 

Cynhwysion

Ar gyfer y toes: 
  • 200g ‘menyn’ neu ‘floc pobi’ fegan (oeri) 
  • 250g blawd plaen (neu gymysgedd o flawd gwyn plaen neu gryf di-glwten sy’n cynnwys gwm xanthan) 
  • Pinsiad o halen 
  • 70ml o ddŵr oer 
  • Llaeth ceirch i sgleinio (dewisol) 
Ar gyfer y llenwad: 
  • 300g o friwsion bara (rhowch unrhyw fara – mae hen fara’n iawn, neu fara di-glwten mai dyma beth rydych chi’n ei defnyddio, mewn prosesydd bwyd a’i dorri’n fân, neu ei grymblo’n fân iawn â llaw) 
  • 270ml Hufen planhigyn (neu hufen cnau coco, ond bydd hyn yn newid y blas ychydig) 
  • 2 lwy fwrdd burum maethol (powdr neu naddion) 
  • 1 winwnsyn mawr, naill ai wedi’i dorri’n fân iawn mewn prosesydd bwyd, neu wedi’i gratio 
  • 2 lwy de o bast harissa 
  • Halen a phupur i sesno 

Dull

Bread
Cam 1

I wneud y toes, ychwanegwch y blawd a’r halen i bowlen gymysgu fawr a thorrwch y ‘menynyn giwbiau a’i ychwanegu at y blawd. Defnyddiwch eich bysedd i rwbio’r menyn i mewn ond gadewch y gymysgedd yn dalpiog iawn (treuliwch tua 30 eiliad ar hwn!)

Cam 2

Ychwanegwch y dŵr oer yn araf nes bod toes yn ffurfio

Cam 3

Ar arwyneb â blawd arno (neu ddarn o bapur pobi), rholiwch y toes allan i ffurfio petryal

Cam 4

Plygwch y traean uchaf i lawr, a’r traean isaf i fyny (fel plygu llythyr)

Cam 5

Oerwch y toes yn yr oergell wrth i chi wneud y llenwad

Cam 6

Torrwch y bara’n fân mewn prosesydd bwyd (neu treuliwch lawer o amser yn ei grymblo’n fân iawn â llaw!), mae hen fara’n iawn, ac yn ffordd wych o ddefnyddio torth ffres ddoe!

Cam 7

Ychwanegwch y briwsion bara i bowlen gymysgu fawr ynghyd â gweddill cynhwysion y llenwad, cymysgwch y cwbl yn dda, bydd hyn yn ffurfio cymysgedd gludiog

Cam 8

Cynheswch y popty ymlaen llaw i 200°C ffan (220°C confensiynol

Cam 9

Rholiwch y toes i betryal mawr, tua 40cm x 25cm.

Cam 10

Rhowch y llenwad i lawr y canol i ffurfio selsig hir (i lawr yr hyd hir nid y lled)

Cam 11

Plygwch ddwy ochr y crwst i fyny a thros y llenwad, gan binsio at ei gilydd i ffurfio sêm

Cam 12

Trowch y cwbl wyneb i waered, fel bod y sêm ar y gwaelod a thorrwch hi’n 10 darn. Yna trosglwyddwch y rholiau selsig i silff bobi wedi’i leinio â phapur gwrthsaim, gan gadw’r sêm ar y gwaelod

Cam 13

Sgleiniwch y rholiau gyda llaeth ceirch (mae gwneud llinellau ar y top gyda chyllell finiog yn edrych yn bert ond mae’n gwbl ddewisol)

Cam 14

Pobwch y rholiau am 25 munud, trosglwyddwch nhw i silff oerimaen nhw’n flasus yn boeth neu’n oer. 

Rosie Brandreth-Poynter

Am fwy o ryseitiau gan Rosie, mynd i: Rosie Brandreth-Poynter – rosieandralphbake.co.uk @rosiebrandreth